Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Addasiadau i gyfyngiadau covid-19 – Mi fyddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn addasu’r trefniadau /swigod os fydd y niferoedd yn codi.
Achosion positif o covid-19 - ni ddylai disgyblion sydd â symptomau covid-19 fynychu’r ysgol. Mi fydd angen parhau i hunan ynysu am 5 diwrnod a chael 2 brawf LFD negyddol cyn dychwelyd.
- Rhybudd ymlaen llaw – Bydd Ffotograffydd Tempest yn Ysgol Cenarth ar y 18fed o Fai i gynnig ffotograffiau o unigolion, grwpiau a dosbarthiadau.
- Cymdeithas Rhieni ac Athrawon – os oes diddordeb gennych i ymuno ar dïm, plîs cysylltwch. Cymdeithas Rhieni ac Athrawon / CRhA yw sefydliad
sydd â chenhadaeth i wneud yr ysgol yn lle gwell i blant ddysgu ac mae angen tîm arnom i weithio nes y gallwn gyfarfod yn yr ysgol fel Cyfarfod Blynyddol yn yr Hydref.
Dewch ar antur Rufeinig gyda ni! Ymunwch â ni am noson llawn hwyl yn yr Amgueddfa o gysur eich cartref.
Dyma fydd yn digwydd:
Adeiladu cuddfan, gwisgo fel Rhufeiniaid, a pharatoi am antur hollol unigryw drwy’r Amgueddfa.
Ewch tu ôl i’r llenni i storfeydd yr Amgueddfa, i ddarganfod trysorau Rhufeinig yr hen Isca.
Ymunwch â galwad fideo fyw arbennig i weld adeilad mwyaf enwog Rhufain - y Colosseum!
Paratowch i deithio’n ôl mewn amser, er mwyn hyfforddi fel llengfilwyr. - Barod am wledd? Cewch ddysgu beth oedd y Rhufeiniaid yn ei fwyta, cyn paratoi danteithion blasus adref!
Archwiliwch Gardd Rufeinig Caerllion mewn ymweliad rhithiol 360, cyn profi eich gwybodaeth mewn cwis ar-lein.
Ymlaciwch i wylio ffilm cyn gwely, ac yna ymuno â sesiwn fyfyrio, lle byddwn yn ymweld â ffynnon sanctaidd hudol.
Mwynhewch brecwast yn yr ardd, cyn creu gardd berlysiau a thrysorau Rhufeinig!
Gwybodaeth Pwysig:
- Tocynnau: £5 [+ ffioedd Eventbrite] i’r teulu cyfan.
- Addas i blant 4 – 12 oed
- Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), heblaw’r alwad fyw o’r Colosseum,
elfennau o’r cynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Bydd yr elfennau yma yn digwydd yn iaith gyntaf yr hwylusydd, sef Saesneg.
- Mae ein digwyddiadau dros nos yn gwerthu’n gyflym – felly cyntaf i’r felin! Am fanylion pellach ac i archebu tocynnau:
https://www.eventbrite.co.uk/e/amgueddfa-dros-nosy-rhufeiniaid-gartref-museum-sleepoverromans-at-home-tickets-299424616087
Bwydlen am ginio am yr wythnos 09.05.22 |
|
Dydd Llun |
Pasta pob cyw iâr Cacen het slic |
Dydd Mawrth |
Pysgod tatw ffa pob llysiau Crymbl a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio rhost porc Myffin afal ac oren Llaeth |
Dydd Iau |
Bologne sbageti bara garlleg llysiau Cwci siocled Sudd |
Dydd Gwener |
Byrgyr biff Sglodion Salad Iogwrt |
- Mabolgampau ysgol – Gorffennaf 8fed - Mabolgampau Ysgol a Raffl Hamperi Gwych os yw`r tywydd yn dderbyniol.
- Gwyliau’r Haf – mi fydd yr ysgol yn cau am 3:30yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 15fed.
Cofion cynnes,
M. Lewis