Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion

 

  • Gwahoddir i bob disgybl i ddod a welis er mwyn plannu coed ar dir yr ysgol ar ddydd Llun 16.1.23.



  • Dosbarthiadau sy`n mynd i nofio y tymor yma:

Nofio / Dydd Iau

Dosbarthiadau    Miss Harris - Bl 1 a 2

                                Mrs Hughes - Bl 5 a 6

Mrs Howells a Miss Carruthers Y Ffrydiau / Dosbarth y Gorlan - Miss Waters

12.1.23

Bl 1a 2                                                                                                  Bl 5 a 6

19.1.23

                                                                                                              Bl 5 a 6

26.1.23

Bl 1a 2                                                                                               

9.2.23

                                                                                                             Bl 5 a 6

16.2.23

Bl 1 a 2

2.3.23

                                                                                                             Bl 5 a 6

9.3.23

Bl 1 a 2                                                                                                        

16.3.23

                                                                                                             Bl 5 a 6

23.3.23

Meithrin Llawn amser / Derbyn Y Gorlan                            

30.3.23

                                                                                                             Bl 5 a 6



Nofio  £10.00 am 6 wythnos. Gallwch chi sicrhau bod enw ar wisg Ysgol eich plentyn. Cysylltwch os gwelwch yn dda

os mae angen.

 

  • Presenoldeb Ysgol

Fel yr gwyddoch, yn ystod pob tymor mae'r Awdurdod Addysg leol yn casglu ffigyrau presenoldeb pob disgybl ym mhob ysgol. Hefyd cesglir data am bresenoldeb y disgyblion yn wythnosol gan yr ysgol a’r Awdurdod Lleol Mae Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2006 yn datgan bod disgwyl i ddisgyblion fynychu ysgol am 190 o ddiwrnodau’r flwyddyn. At hynny, mae yna gydberthynas gref rhwng presenoldeb da a chyflawniad uchel fel y nodir isod.

 

Presenoldeb eich plentyn

 

Canllawiau Cenedlaethol

95 – 100%

Siawns orau o gyflawni i’r potensial llawn.  Mae eich plentyn yn cymryd mantais llawn o bob cyfle i ddysgu.

90 – 95%

Boddhaol.  Mae’n bosib bydd angen i’ch plentyn gymryd amser i ddal i fyny gyda gwaith.

85 – 90%

Achos i bryderi.  Mae’n bosib bydd eich plentyn yn tangyflawni.

80 – 85%

Achos i bryderu.  Mae’n bosib bydd angen i’ch plentyn dderbyn cymorth ychwanegol i ddal i fyny gyda gwaith.

Yn is na 80%

Posibilrwydd fod eich plentyn yn colli allan ar addysg eang a chytbwys.

A wnewch sicrhau eich bod yn hysbysu’r ysgol drwy ffonio neu wneud hynny’n bersonol neu ebostio ar fore cyntaf absenoldeb eich plentyn.  Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd eich plentyn yn cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig.  Os oes gan eich plentyn gyflwr heintus, yna wrth gwrs yr ydym yn disgwyl i chi ei gadw/chadw adref, pa mor dda bynnag  y mae’n teimlo.  Ar wahân i salwch, ac apwyntiad gyda’r meddyg neu’r deintydd na ellir ei drefnu y tu 

allan i oriau ysgol, ni ddylai fod rheswm arall i’ch plentyn golli’r ysgol.

Rhaid i ni bwysleisio ni ddylai rhieni ddisgwyl y byddai'r ysgol yn arferol yn cytuno i gais am wyliau teuluol yn ystod y tymor.  Golyga hyn y caiff unrhyw absenoldebau a achosir gan ddisgyblion yn cymryd gwyliau adeg tymor heb ganiatâd eu cofnodi fel rhai anawdurdodedig.

Bwydlen am wythnos 16.01.23

Dydd Llun

Grilen cyw iâr, waffls, ffa pob, llysiau

Rolyn sbwng hufen ia

Dydd Mawrth

Peli cig mewn saws tomato, pasta, llysiau

Crymbl afal a chwstard

Dydd Mercher

Cinio cyw iâr

Myffin siocled a sudd

Dydd Iau

Cawl a bara

Cacen oren a saws siocled

Dydd Gwener

Pysgod, sglodion, pys

Cacen siocled crenshlyd a llaeth

 Cofion cynnes,

 

M. Lewis 

Pennaeth