Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Mabolgampau 1yp ar dir yr ysgol ar ddydd Mercher 19.7.23. Bydd angen i blant Dosbarth y Gorlan Miss Carruthers Meithrin rhan amser dod erbyn 1yp yn lle dod yn y bore.
- Mae'r CRhA wedi paratoi raffl i'w gwerthu a dychwelyd os gwelwch yn dda erbyn 17 Gorffennaf a`i dynnu ar 19 Gorffennaf ar ddiwrnod Mabolgampau. Gweler atodiadau.
- Ar ddydd Iau 20.7.23, gwahoddir i`r disgyblion i ddod a gemau bwrdd i chwarae mewn parau / grwpiau yn y bore a disgo i ddathlu gyda Blwyddyn 6 yn y prynhawn.
- Gweler atodiad am wasanaeth Cerdd 2023 – 2024.
- Neges gan y CRhA - diolch i bawb sydd wedi rhoi gwobrau tuag at y Raffl. Mae hyn yn gyfle gwych i godi arian i'r plant. Dychwelwch daflenni tocynnau ac arian yn ôl i'r ysgol erbyn dydd Mawrth 18 Gorffennaf os gwelwch yn dda.
- Os gwelwch yn dda os ydych chi`n defnyddio`r Clwb ar ôl Ysgol, i dalu am unrhyw ddyledion. Fe fydd Clwb ddydd Mawrth, Mercher a dydd Iau nesaf.
- Fe fyddwn yn dosbarthu adroddiadau`r plant ar ddydd Llun.
- Atodaf poster wrth OTCoaching am weithgareddau dros yr Haf.
- Ynghlwm mae poster ynglŷn â sesiwn prynhawn crefft Sioe Aberteifi y maent yn ei chynnal ddydd Sadwrn 29ain Gorffennaf ar Faes y Sioe. Bydd hwn yn gyfle i blant ddod i greu crefftau i gymryd rhan yn ein hadran Garddwriaeth y Sioe. Rwyf hefyd wedi atodi adran y plant o'r amserlen Garddwriaeth.
- Diwrnod ola`r tymor Dydd Gwener 21ain o Orffennaf – Ysgol yn dechrau blwyddyn newydd ar ddydd Mawrth 5ed o Fedi.
Menu for week of 17.7.23 | |
Monday |
Pastichio, bara garlleg, llysiau Pancos ffrwythog |
Tuesday |
Grilen cyw iar, waffls, ffa pob, llysiau, Cacen siocled Haf |
Wednesday |
Selsig, Pwdin Sir Efrog, potatoes, Llysiau Cwci ceirch, ffrwyth a llaeth |
Thursday |
Bysedd Pysgod, sglodion, salad Rolyn hufen ia sbwng |
Friday | Bwffet |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth