Dewiswch eich iaith

Iaith / Language

Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

  • Cynhelir gwasanaeth Diolchgarwch ar ddydd Gwener 21.10.22 yn Eglwys St Llawddog, Cenarth am 10yb. Dyma wasanaeth i'r ysgol yn unig mewn man addoli.
  • Dyddiad hanner tymor: 31.10.22 – 4.11.22
  • Dyddiad hyfforddiant staff a bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion: 10.11.22
  • Dyddiad gwyliau Nadolig: 22.12.22 – 9.1.23
  • Nofio – dosbarth Miss Waters / Y Gorlan (derbyn) yn parhau ar ddydd Iau.
  • Bikes / Scooters – gall plant ddod a`i sgwter / feic ar y diwrnod sydd wedi cael ei neilltuo:

Dydd Llun – Dosbatrh Mrs Howells Y Ffrydiau

Dydd Mawrth  – dosbarth Miss Waters Y Gorlan

Dydd Mercher – dosbarth Miss Harris Y Bont

Dydd Iau  – dosbarth Miss Williams Y Ffynnon

Dydd Gwener  – Mrs Hughes` class Y Berllan

Bwydlen am ginio am yr wythnos 17.10.22

Dydd Llun

Sbageti cyw iar llysiau bara Naan

Fflapjac afal a sudd

Dydd Mawrth

Cyw iar, waffls, ffa pob, llysiau,

Cacen Haf

Dydd Mercher

Cinio selsig

Cwci ceirch a llaeth

Dydd Iau

Pastishio bara garlleg llysiau

Salad ffrwythau

Dydd Gwener

Pysgod sglodion salad

Rolyn hufen ia

  • SHWMAE SU’MAE – diolch am eich cyfraniadau heddiw.
  • Yn arwain at Gwpan y Byd Pêl-droed, mae'r Mentrau Iaith yn lansio cystadleuaeth dylunio het bwced http://ysgolcenarth.cymru/63e17737-8a1a-46b7-b0c3-86bcd7179c09" alt="⚽️" />Mae'r gystadleuaeth yn agored i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed.

Er mwyn cystadlu, lawrlwythwch y  templed arbennig oddi ar  gwefan Mentrau Iaith  http://ysgolcenarth.cymru/dc798ec4-236a-4167-8d49-74b25ca07e7c" alt="👉" />https://mentrauiaith.cymru/cystadleuaeth-dylunio-het-bwced/ neu mae’r manylion yn y ffeil atodedig cyn mynd ati i ddylunio’r het bwced.

Rydym yn gofyn i naill ai dynnu llun neu sganio'r dyluniad, a'i anfon  trwy e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. gynnwys enw llawn y plentyn, eu hardal a’r oedran, erbyn yr 26ain o Hydref, 2022 am 12pm.

Dyma mwy am y gystadleuaeth yn y fideo yma:  https://youtu.be/pd9wewsi3r0

Y beirniaid  yw Sioned Dafydd (cyflwynydd Sgorio), Geraint Lovgreen (cerddor/cefnogwr Cymru), Tim Williams (Sefydlydd cwmni dillad Spirit of 58). Pob lwc!

Cofion cynnes,

M. Lewis