Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Nodyn atgoffa i Flwyddyn 6: 
    Gan bod eich plentyn fod dechrau addysg uwchradd ym Medi 2023, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol erbyn 20 Rhagfyr 2022.
    Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Derbyniadau Ysgol.
    Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, yna gallwch ymweld â’u gwefannau: AberaeronAberteifi , Bro PedrBro TeifiHenry Richard,Penglais a Penweddig.
    Os ydych chi'n penderfynu gwneud cais i ysgol mewn sir arall yna gwnewch gais i'r Sir honno.
    Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'ch cais erbyn 20 Rhagfyr 2022.  Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr ac efallai y bydd hyn yn cael effaith ar p’un ai ydych yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Noder y byddwch ond yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis os oes lleoedd ar gael yn yr ysgol honno.
    Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau derbyn a'r rheoliadau i'w gweld yma: Gwybodaeth i Rieni. Os hoffech gael copi papur yna cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau (manylion isod).


TRAFNIDIAETH YSGOL

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i ysgol o ganlyniad i rieni yn penderfynu dewis ysgol nad yw'r ysgol addas agosaf.  Fe'ch cynghorir i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth cyn penderfynu ar eich dewis o ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am Gludiant Ysgol, gan gynnwys y ffurflen gais, ar gael yma:Cludiant Ysgol. Noder mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth yw 20 Rhagfyr 2022.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.

Cheryl Evans. 

Swyddog Derbyniadau Ysgol/School Admission Officer

Gwasanaeth Ysgolion/Schools Service

Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn,

Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

    • Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
    • 01545 570881
  • 21.11.22 Wythnos Nosweithiau Rhieni - allwch wneud siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad i drafod am gynnydd eich plentyn.
  • Rhieni/Gwarcheidwaid (Cynradd) - Mae Cymwysterau Cymru yn creu cyfres newydd sbon o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a fydd yn gwireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion dysgwyr.

Rydyn ni am gyrraedd cymaint o bobl yng Nghymru â phosibl fel eu bod nhw’n gallu dweud eu dweud ar ddyfodol cymwysterau yng Nghymru.

Bydden ni’n gwerthfawrogi eich cymorth i ledaenu'r gair gyda rhieni a gofalwyr dysgwyr mewn ysgolion cynradd yn eich ardal ac yn gofyn i chi drefnu i bob ysgol gynradd yn eich ardaloedd anfon y neges fer isod at rieni gan ddefnyddio eu dull cyfathrebu arferol. Diolch am eich cefnogaeth.

Neges i rieni/gofalwyr:  Neges gan Cymwysterau Cymru: O 2025, bydd TGAU yn newid. Bydd pob dysgwr ysgol gynradd yn astudio'r TGAU newydd hyn yn yr ysgol uwchradd. Cliciwch yma i Dweud Eich Dweud!

  • Blwyddyn 3 a 4: Am fod Cwpan Y Byd Pêl Droed FIFA yn agosau, mae Ceredigion Actif gŵyl ar thema Cwpan Y Byd ar Ddydd Llun yr 21ain o Dachwedd ar yr Astro yn Canolfan Hamdden Aberteifi. Bydd yr ŵyl ar gyfer plant blynyddoedd 3 a 4 (Dosbarth Miss Williams) ac yn rhedeg o 1yp-3yp.

Bydd Actif Ceredigion yn cynnwys sgiliau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phêl-droed (driblo, saethu, sgiliau cadw'r bêl fynnu a gemau bach) yn ogystal â chwaraeon a gemau traddodiadol eraill i ategu'r diwrnod. Mae gwahoddiad i`r llysgenhadon hefyd a dylai Llysgenhadon Efydd wisgo eu crysau polo du swyddogol ar y diwrnod.

Cost y bws yw £4 os gwelwch yn dda.

  • Neges o`r Llyfrgell: 

 

Mae Llyfrgell Ceredigion wedi trefnu’r gweithgareddau canlynol ar gyfer plant ardal Aberaeron ac Aberteifi dros gyfnod y gystadleuaeth.

Her Ddarllen Cwpan y Byd  – Cyfle i blant ennill pêl-droed wrth ymweld â’u Llyfrgell leol dwy waith dros gyfnod Cwpan y Byd, a benthyca 4 llyfr bob tro.  Tynnir enw’r enillydd ym mhob cangen allan o het ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Her Lliwio – Mae’r artist Anne Cakebread (Llyfr Lliwio Pêl-droed Cymru) wedi darparu lluniau mawr o chwaraewyr Cymru i’r plant eu lliwio yng llyfrgelloedd Aberaeron ac Aberteifi.  Mae croeso i bob plentyn ddod i liwio darn o’r llun yn y gangen.  

Delyth Huws    01970 633720     Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

/>Gwyl_Cymru.jpgGwyl_Cymru_2.png

http://ysgolcenarth.cymru/2a143c18-2b79-4266-8114-4ad8808dfbaf" alt="Text Description automatically generated" width="168" />

  • Dyddiadau Pwysig:
    • Gwyliau Nadolig: 22.12.22 – 9.1.23;  Bydd yr ysgol yn cau ar ddydd Mercher 21.12.22 ac yn agor i bawb ar 9.1.23.
    • Wythnos Nosweithiau Rhieni 21.11.22
    • Diwrnod Siwmper Nadolig 8.12.22
    • Cristingl yng Nghenarth i blant yn unig
    • Gwahoddir i chi i ddod i weld perfformiad gan y Plant yn Eglwys Sant Llawddog Cenarth 19.12.22 a 20.12.22 am 2yp. Mynediad am £5.
    • Cinio Nadolig 14.12.22
  • Nofio – dosbarth Miss Harris / Y Bont (bl1 a 2) yn parhau i nofio ar ddydd Iau. Mae angen cyfraniad o £10 os gwelwch yn dda tuag at gost y bws.

Bwydlen am ginio am yr wythnos 21.11.22

Dydd Llun

Gril cyw iar, ffa pob, tatw, llysiau

Hufen ia

Dydd Mawrth

Peli cig mewn saws tomato, pasta, Llysiau

Crymbl a chwstard

Dydd Mercher

Cinio cyw iâr

Myffin siocled a sudd

Dydd Iau

Cawl a bara

Sbwng oren suddog a saws siocled

Dydd Gwener

Pysgod, sglodion, salsa

Cacen siocled crenshlyd

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofion cynnes,

M. Lewis   Pennaeth