Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

Y flwyddyn ysgol newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Llun! Croeso nôl i bawb, a chroeso arbennig i'r disgyblion Newydd. Mae Cwricwlwm i Gymru newydd cyffrous yn dechrau y tymor yma ac mae`r crynodeb isod.

Clwb Brecwast – dechrau am 8yb yn y Neuadd.

Dechrau ysgol – 8.45yb. ac mae`r mynediad trwy`r drws y ffrynt am fynediad i`r ysgol os gwelwch yn dda.

Ymarfer corff – bydd ymarfer corff ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff. Ni fydd gwersi nofio wythnos nesaf.

Bwydlen am ginio am yr wythnos 05.09.22

Dydd Llun

Tica Cyw Iâr, reis, Bara Naan, Llysiau

Fflapjac afal sudd ffrwythau

Dydd Mawrth

Grilen Cyw iâr, Tatw Hash, Ffa pob, llysiau,

Cacen Haf

Dydd Mercher

Cinio selsig

Cwci ceirch, Ffrwyth a llaeth

Dydd Iau

 Pastishio, bara garlleg, llysiau

Salad ffrwythau

Dydd Gwener

Bysedd pysgod sglodion salad llysiau

Rolyn Hufen ia sbwng mafon

Crynodeb o’r Cwricwlwm i Gymru 2022   220209-canllaw-i-rieni.pdf (gov.wales)

Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-lunio drwy ymgysylltu a’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:

Ein gweledigaeth

  • Ysgol feithringar, hapus a chroesawgar
  • Amgylchedd ddiogel, cefnogol a chynhwysol lle dethlir amrywiaeth ddiwylliannol a gwerthfawrogir gwahaniaeth.
  • Awyrgylch ac ethos deuluol, cadarnhaol, parchus, caredig, brwdfrydig, positif, cyfeillgar gyda disgwyliadau uchel yn rhan allweddol.
  • Ymdeimlad cryf o gymuned a phartneriaiethau.
  • Hybu Cymreictod a balchder at Gymru a thu hwnt yn rhan annatod o’m bywyd a gwaith.
  • Ysgol sy’n dathlu cyflawniadau ac yn ysgogi cariad at ddysgu ymhob aelod o o’r teulu gyda dysgwyr sy’n ganolog, yn cael profiadau a phlentyndod hapus gyda chyfleoedd i flodeuo a chyflawni hyd eithaf eu gallu a’u potensial.
  • Rhoddir pwysigrwydd i addysgu a dysgu rhagorol drwy rhaglenni dysgu eang,cyfoethog, cyffrous ac i ddatblygu annibynniaeth, doniau ac hyder.
  • Disgwylir gweld y safonau ymddygiad uchaf gyda pharch at eu hunain, at eraill ac at bethau.

Ein gwerthoedd:

Uchelgais a dyhead

Brwdfrydedd ac anogaeth

Caredigrwydd a pharch

Lles ac ymddiriedaeth

Ein cwricwlwm cynhwysol:

Bydd ein cwricwlwm yn codi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael cymorth I wireddu uchelgeisiau a dyheadau’r pedwar diben, ac i symud ymlaen. Yr ydym wedi ystryried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.

Y Pedwar Diben

Y pedwar diben yw`r man cychwyn a`r dyhead ar gyfer cynllun cwricwlwm ein hysgolion. Nod ein hysgol yw cefnogi pob dysgwr i ddod yn:

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, galluog, yn barod I ddysgu drwy gydol eu bywydau;

Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod I chwarae rhan lawn mewn bywyd a Gwaith;

Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a`r byd;

Unigolion iach, hyderus, yn barod I fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae`r datganiadau cwricwlwm yn darparu cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau dysgu dilys I ddatblygu`r cysyniadau, yr wybodaeth a`r sgiliau allweddol fel y`u disgrifir yn y datganiadau o`r hyn sy`n bwysig ac yn unol a`r Datganiadau o`r Hyn sy`n Bwysig.

Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh)

Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy`r 6 MDaPh o:

Ieithoedd, Llyhtrennedd a Chyfathrebu

Celfyddydau Mynegiannol;

Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

Dyniaethau;

Mathemateg a Rhifedd;

Iechyd a Lles

Dysgu, Dilyniant ac Asesu

Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu drwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy`n defnyddio`r egwyddorion addysgeg.

Mae ein cwricwlwm, a gefnogir gan ddysgu ac addysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr I wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a`u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae`n ei olygu I wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a`u dealltwriaeth, eu sgiliau a`u galluoedd, a`u priodoleddau a`u tueddiadau ac fe`i hysbysir gan yr egwyddorion cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein dull o asesu, a’i diben yw llywio’r Gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu’n cael ei ymgorffori fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu wrth fynd i mewn i’r Ysgol.

Cymraeg

Fel Ysgol cyfrwng Cymraeg bydd dysgu yn digwydd yn y Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar.

Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn ac i`w hymestyn a’u cymhwyso ar draw pob maes. Bydd y dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draw'r cwricwlwm i:

Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu

Ddefnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn

Fod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i`w help i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd.

Hawliau Dynol CCUHP/ CCUHPA

Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a’r Confensiwn Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ymhlith y rhai sy’n darparu dysgu ac addysgu.

Addysg Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd Gwaith

 

Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â Gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)

 

Byddwn yn helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yw sylfaen ACRh. Mae'r cydberthnasau hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.

Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn un o ofynion mandadol Cwricwlwm i Gymru ac mae'n orfodol i bob dysgwr o 3 i 16 oed.

Byddwn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn gynhwysol ac yn ymatebol, gan ddiwallu anghenion pob dysgwr.

Cofion cynnes,

M. Lewis