Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Byddaf fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Cenarth yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.
Mae wedi bod yn fraint cael arwain ysgol Cenarth a byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda'r staff a'r plant.
Rwyf wedi mwynhau dod i'r gwaith bob dydd a does 'na ddim diwrnod wedi mynd heibio pan dwi ddim yn cael gweld doniau, sgiliau a brwdfrydedd y plant mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Mae gwylio pobl ifanc yn tyfu ac yn datblygu, gan gyflawni eu potensial, gan anelu am eu huchelgeisiau, a dod yn oedolion ifanc cyfrifol a dinasyddion sy'n gyrru pob athro.
Bu'n bleser cael bod ar daith gyffrous; taith sydd wedi gweld yr ysgol yn mynd trwy lawer o newidiadau, heriau a hyd yn oed wedyn, o nerth i nerth. Mae staff, rhieni a phlant yn rhan fawr o ethos y tîm a diolch i'r gefnogaeth barhaus gennych chi ac i`n Corff Llywodraethol ymroddedig.
Hoffwn eich sicrhau y byddaf yn gweithio'n ddiwyd ochr yn ochr â chi, â'n Llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a'n holl staff i sicrhau'r newid effeithiol ar gyfer yr arweinyddiaeth i`r pennaeth nesaf. Serch hynny o hyn hyd at ddiwedd y tymor mae'n fusnes fel arfer a'r plant yw ein blaenoriaeth.
- PROSIECT OPERA ABC Blwyddyn 5 a 6: Mae’r Gwasanaeth Cerdd yn cydweithio gyda chwmni ABC of Opera i ddod i wneud gweithdai i flynyddoedd 5 a 6. Mae’n brosiect sy’n cynnwys y chwe elfen a’r pedwar diben o’r cwricwlwm newydd; yn adeiladu cymeriad, dathlu gwahaniaeth ac yn annog creadigrwydd i’m pobl ifanc i gredu ‘Amdani Blant Cymru’.
Cyfle da i blant ifanc Ceredigion i ddatblygu eu hyder, troi rhywbeth fel cerddoriaeth glasurol sydd weithiau yn cael ei hystyried yn hen ffasiwn, mewn i rywbeth llawn hwyl a chymysgu digwyddiadau bob dydd ysgolion a bywyd tu fas i’r ysgol.
Gwahoddir i`r plant blwyddyn 5 a 6 i ddod i`r weithdy cyntaf ar ddydd Gwener 28.4.23 i Aberporth. Bydd eisiau pecyn bwyd, gwisg ysgol, a chost y bws i bob disgybl yw £4. Bydd y bws yn casglu`r plant am 8.45yb ac yn dychwelyd erbyn 3.00yp.
Bwydlen am wythnos 24.4.23 |
|
Dydd Llun |
Pitsa, tatw, salsa, llysiau Myffin siocled a llaeth |
Dydd Mawrth |
Peli cig, saws tomato, pasta, llysiau Sgon afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio cyw iar Cacen siocled crenshlyd, sudd |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau Melba eirin gwlanog |
Dydd Gwener |
Cyw iar wedi`i lapio, sglodion, salad, moron Jeli ffrwythau a mws |
NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:
Dyddiad / Date: |
Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn
|
Dyddiad / Date: |
Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 |
20.4.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan (wedi` i ohirio am fod salwch gyda staff yn y pwll nofio) |
||
|
27.3.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
4.5.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
|
11.5.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
18.5.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
|
25.5.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
HANNER TYMOR HALF TERM |
|||
8.6.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
|
15.6.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
22.6.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
|
29.6.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
6.7.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
13.6.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
Neges o`r Urdd i`r rhieni:
Mae Cystadlaethau Trawsgwlad i Ysgolion Cynradd nôl - am y tro cyntaf ers 2019!
Ras Trawsgwlad: 1000m a 2000m.
13 Mai 2023, 2.30yp
Caeau Blaendolau, Aberystwyth
Merched a Bechgyn Bl.3 – 6
Am ddim i aelodau’r Urdd
Dewch i gymryd rhan yng nghystadlaethau Trawsgwlad yr Urdd ym mis Mai eleni. Mae'n ddigwyddiad cenedlaethol sydd ar agor i holl blant blynyddoedd 3 i 6.
Bydd rasys eleni yn digwydd fel rhan o benwythnos Gŵyl Gynradd ar gaeau Blaendolau, Aberystwyth, lle bydd gwledd o gampau gwahanol yn cael eu chwarae trwy'r penwythnos.
Bydd rasys 1000m i flynyddoedd 3 - 5 a ras 2000m ar gael i flwyddyn 6. Bydd hefyd categorïau i blant gydag anabledd.
Mae croeso mawr i rieni i ddod i wylio a chefnogi ar y diwrnod! Mae maes parcio ar gael yng nghaeau clwb pêl-droed Padarn FC, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3TL am £3.
Gall plant cael eu cofrestru a`i gludo rhieni. Bydd cofrestru hefyd ar agor ar ddiwrnod y gystadleuaeth rhwng 10:00 – 14:00.
Os hoffech gofrestru eich plenty / plant gallwch e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth