Neges bwysig ar 26/6/23
Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Mabolgampau Ysgol Cenarth Haf 2023
Diwrnod mabolgampau wedi ei OHIRIO am ddydd Mawrth 27.6.23 oherwydd y rhagolygon. Ymddiheuriadau am yr anghyfleusdra. Fe fyddwn yn cynnal Mabolgampau ar ddydd Mercher 19eg o Orffennaf am 1yp.
Cofion / Kind regards
M. Lewis
Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Mabolgampau 1yp ar dir yr ysgol ar ddydd Mawrth 27.6.23. Bydd angen i blant Dosbarth y Gorlan Miss Carruthers Meithrin rhan amser dod erbyn 1yp yn lle dod yn y bore.
- Gwahoddir bl5 a 6 i fynd i Aberteifi i chwarae Tag Rygbi ar 3.7.23 o 1yp i 3yp. Bydd eisiau diod.
- Gwahoddir bl1 a 2 i fynd i Aberteifi i ymuno gyda`r Ŵyl Chwaraeon ar 10.7.23 o 1yp i 3yp.
- Trip Dysgu Sylfaen (dosbarthiadau Mrs Howells, Miss Harris) fel a ganlyn: Picnic yn y Parc a Lle Chwarae Moody Calf; 12.7.23; Gadael am 9.30 a dychwelyd erbyn 3 o`r gloch; Cost y Daith - £10. Bydd angen pecyn bwyd a £2 am hufen iâ ar y diwrnod.
Am fwy o wybodaeth cysyllter gyda'r athro dosbarth.
- Trip dosbarth y Ffynnon a Dosbarth y Berllan (Miss Williams a Miss Waters) – Bowlio Deg a Pharc yng Nghaerfyrddin ar 6.7.23 am £11.00 yr un; bydd eisiau pecyn bwyd a diod; arian poced am luniaeth.
- Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Gorlan – bore yn unig (Miss Carruthers); y Ffrydiau ( Mrs Howells) y Bont (Miss Harris) ar brynhawn dydd Mercher 5.7.23 o 1yp ymlaen.
- Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Ffynnon ac y Berllan (Miss Williams ac Miss Waters) ar brynhawn dydd Gwener 7.7.23 o 1yp ymlaen.
Bydd y plant yn dangos eu gwaith i`r rhieni/gwarcheidwaid.
- Gwahoddir i flwyddyn 5 i ymweld am ddiwrnod hwyl yn Ysgol Aberteifi ar ddydd Mercher 12fed o Orffennaf ac fe fydd bws i fynd a`r disgyblion.
- Gŵyl- 24.6.23
Bydd yr wŷl ei hun yn digwydd ar Dydd Sadwrn 24ain Mehefin ym Mharc Brenin Sior V Castell Newydd Emlyn, lle bydd cystadleuaeth gwisg ffansi, mabolgampau, gemau,
peintio wynebau a mwy. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod i’r teulu cyfan ac mi fydd croeso cynnes i bawb.
Bydd cerddoriaeth byw gyda’r nos yn Y Sgwâr Castell Newydd Emlyn gan Llew Davies am 8yh.
- Cystadleuaeth Principality Aberteifi: fe'ch gwahoddir i ddylunio eich pot planhigion eich hun; casglwch eich pot planhigion plaen o Swyddfa Aberteifi (gyferbyn â K27) a'i greu gan ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn ffenestr Swyddfa Aberteifi a'r dyddiad cau yw 22.9.23. Mae dau grŵp – 4 – 7 oed ac 8 – 11 oed.
Bwydlen am wythnos 26.6.23 |
|
Dydd Llun |
Cyri cyw iar, reis, bara Naan, Llysiau Fflapjac afal, sudd |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iar, waffls, ffa pob, llysiau Cacen Haf siocled |
Dydd Mercher |
Cinio selsig Cwci ceirch, ffrwyth a llaeth |
Dydd Iau |
Pastishio, bara garlleg, llysiau Pancos ffrwythog |
Dydd Gwener |
Bysedd pysgod, sglodion, llysiau Rolyn hufen ia sbwng |
NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:
Dyddiad / Date: |
Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn
|
Dyddiad / Date: |
Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 |
|
29.6.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
|
6.7.23 |
Meithrin Llawn amser / Y Gorlan |
||
13.6.23 |
Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth