Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Sioe Siani Sionc - Ar y 3ydd o Hydref gwahoddir dosbarth Mrs Howells, dosbarth Miss Waters, Blwyddyn 1 a 2 dosbarth Miss Harris i fynd ar daith i weld Sioe Siani Sionc yn Llangrannog am £5.
- Mae angen gwisg ymarfer corff ar ddisgyblion Mrs Howells Dosbarth y Ffrydiau ar ddydd Llun os gwelwch yn dda yn ogystal â dydd Mawrth hefyd.
- Ymarfer corff – i bawb ar bob dydd Mawrth.
- Nofio – dosbarth Miss Waters / Y Gorlan (derbyn) yn parhau ar ddydd Iau.
- Bikes / Scooters – gall plant ddod a`i sgwter / feic ar y diwrnod sydd wedi cael ei neilltuo:
Dydd Llun – Dosbatrh Mrs Howells Y Ffrydiau
Dydd Mawrth – dosbarth Miss Waters Y Gorlan
Dydd Mercher – dosbarth Miss Harris Y Bont
Dydd Iau – dosbarth Miss Williams Y Ffynnon
Dydd Gwener – Mrs Hughes` class Y Berllan
Bwydlen am ginio am yr wythnos 26.09.22 |
|
Dydd Llun |
Cyri, reis, bara naan Llysiau Fflapjac Afal a sudd |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iâr, waffls, ffa, llysiau Cacen siocled |
Dydd Mercher |
Cinio selsig Cwci ceirch Oat ffrwyth a llaeth |
Dydd Iau |
Pasticio, bara garlleg llysiau Salad ffrwythau |
Dydd Gwener |
Pysgod, sglodion salad pys Rolyn sbwng hufen ia |
- Nodyn atgoffa - Gwersyll Yr Urdd Llangrannog – Blwyddyn 5 a 6 (Dosbarth Mrs Hughes)
Gofynnwn yn garedig i chwi anfon blaendal o £30 I’R YSGOL gyda’r bonyn amgaeedig ERBYN 3ydd o Hydref 2022.
I gystadlu yn yr Urdd mae rhaid ymaelodi. Fe fydd cystadleuaeth Cogurdd cyn bo hir ac bydd rhaid ymaelodi cyn cymryd rhan. Sut i Ymaelodi? Dilynwch y linc Ymuno | Urdd Gobaith Cymru Os ydych wedi ymaelodi llynedd mae’r broses adnewyddu yn syml! Cer i mewn i’r Porth, gwiriwch eich manylion ac yna ewch ymlaen a chliciwch ‘Adnewyddu Aelodaeth’ ger enw’r aelod dan sylw ac yna ymlaen i dalu. Os ydych yn ymaelodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu proffil o fewn Y Porth er mwyn cychwyn y broses. Wedi hynny ychwanegwch manylion yr aelod ac yna ymlaen i dalu. Ar ôl ychwanegu a thalu bydd eich plant yn aelodau o’r Urdd a gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion a dros y misoedd nesaf bydd holl weithgareddau a chystadlaethau’r Urdd yn symud i’r Porth, hefyd.
|
Mwynhewch y penwythnos.
Cofion cynnes,
M. Lewis