Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Gweithrediad Diwydiannol - Bydd Ysgol Cenarth ar agor ar 1af Chwefror, 14eg o Chwefror, 15fed a 16eg o Fawrth.
- Plannu coed: Dyddiad nesaf yw dydd Llun 30.1.23 i ddod a welis eto os gwelwch yn dda.
- Nofio y tymor yma:
Nofio / Dydd Iau |
Dosbarthiadau Miss Harris - Bl 1 a 2 Mrs Hughes - Bl 5 a 6 Mrs Howells a Miss Carruthers Y Ffrydiau / Dosbarth y Gorlan - Miss Waters |
26.1.23 |
Bl 1a 2 |
2.2.23 |
Bl 5 a 6 |
9.2.23 |
Bl 1 a 2 |
16.2.23 |
Bl 5 a 6 |
2.3.23 |
Bl 1 a 2 |
9.3.23 |
Bl 5 a 6 |
16.3.23 |
Meithrin Llawn amser / Derbyn Y Gorlan |
23.3.23 |
Bl 5 a 6 |
30.3.23 |
|
Nofio £10.00 am 6 wythnos. Gallwch chi sicrhau bod enw ar wisg Ysgol eich plentyn.
- Hwyr - Hoffwn atgoffa rhieni/gwarcheidwaid am y pwysigrwydd i sicrhau bod pob plentyn yn mynychu’r ysgol ar amser.
Mae hyn er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd cofrestru a’r disgwyliad y bydd disgyblion yn cyrraedd yn brydlon. Mae cyrraedd yn hwyr i’r ysgol nid yn unig yn tarfu ar addysg y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr ond hefyd y disgyblion hynny sydd eisoes yn yr ysgol.
Rydym yn eu tro yn atgoffa rhieni yn garedig bod diwrnod ysgol yn dechrau am 9yb a’n gobaith yw y bydd pob plentyn yn yr ysgol erbyn yr amser hwn. Mae colli 20 munud pob wythnos yn yr ysgol yn ychwanegu hyd at dros 11 awr neu bron 3 diwrnod cyfan o ddysgu dros y flwyddyn. Fodd bynnag, rydyn ni'n deall pan fydd hwyrder yn digwydd ambell waith.
Mae bod ar amser:
- rhoi cychwyn da i ddiwrnod eich plentyn ac yn rhoi meddwl cadarnhaol i’ch plentyn, fel y gall wneud o’i ddysgu.
- datblygu patrymau cadarnhaol am y dyfodol;
- arwain at presenoldeb da;
- arwain at cyrhaeddiad well;
- yn arwain at ddeall bod ysgol yn bwysig a bod addysg yn werthfawr;
- yn helpu’ch plentyn i ddatblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb drosto’i hun a thuag at eraill;
- yn helpu’ch plentyn i wneud ffrindiau a chadw ffrindiau;
- medi gwobrau; mae’n arwain at llwyddiant a hunanhyder.
- Beicio - Gwahoddir i flwyddyn 5 a 6 i gael gwersi beicio ar yr wythnos 13.3.23.
Bwydlen am wythnos 31.01.23 |
|
Dydd Llun |
Pastishio, bara garlleg, llysiau, Cwci siocled a llaeth |
Dydd Mawrth |
Pysgod, tatw, ffa pob, llysiau Sbwng a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio seleig Ffrwythau mewn jeli |
Dydd Iau |
Cyri cyw iâr, reis, bara Naan, llysiau Myffin a sudd |
Dydd Gwener |
Pitsa, sglodion, colslo, llysiau Pwdin reis a chwli |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth