Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Mabolgampau 1yp ar dir yr ysgol ar ddydd Mercher 19.7.23. Bydd angen i blant Dosbarth y Gorlan Miss Carruthers Meithrin rhan amser dod erbyn 1yp yn lle dod yn y bore.
- Gwahoddir bl5 a 6 i fynd i Aberteifi i chwarae Tag Rygbi ar 3.7.23 o 1yp i 3yp. Bydd eisiau diod.
- Gwahoddir bl1 a 2 i fynd i Aberteifi i ymuno gyda`r Ŵyl Chwaraeon ar 10.7.23 o 1yp i 3yp.
- Trip Dysgu Sylfaen (dosbarthiadau Mrs Howells, Miss Harris) fel a ganlyn: Picnic yn y Parc a Lle Chwarae Moody Calf; 12.7.23; Gadael am 9.30 a dychwelyd erbyn 3 o`r gloch; Cost y Daith - £10.
Bydd angen pecyn bwyd a £2 am hufen iâ ar y diwrnod. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda'r athro dosbarth.
- Trip dosbarth y Ffynnon a Dosbarth y Berllan (Miss Williams a Miss Waters) – Bowlio Deg a Pharc yng Nghaerfyrddin ar 6.7.23 am £11.00 yr un; bydd eisiau pecyn bwyd a diod; arian poced am luniaeth.
- Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Gorlan – bore yn unig (Miss Carruthers); y Ffrydiau ( Mrs Howells) y Bont (Miss Harris) ar brynhawn dydd Mercher 5.7.23 o 1yp ymlaen.
- Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Ffynnon ac y Berllan (Miss Williams ac Miss Waters) ar brynhawn dydd Gwener 7.7.23 o 1yp ymlaen.
Bydd y plant yn dangos eu gwaith i`r rhieni/gwarcheidwaid.
- Gwahoddir flwyddyn 5 i ymweld ag Ysgol Bro Teifi ar ddydd Mercher 5ed o orffennaf ac fe fydd bws i fynd a`r disgyblion.
- Gwahoddir i flwyddyn 5 i ymweld am ddiwrnod hwyl yn Ysgol Aberteifi ar ddydd Mercher 12fed o Orffennaf ac fe fydd bws i fynd a`r disgyblion.
- Pecynnau bwyd ar dripiau ysgol mae pob disgybl oed Derbyn i Flwyddyn 4 yn medru gwneud cais am becyn bwyd i fynd ar drip ysgol. Mae’n rhaid gwneud y cais wythnos o flaen llaw i alluogi staff y gegin i archebu’r cynhwysion a threfnu amser paratoi. Gweler atodiad.
Bwydlen am wythnos 3.7.23 | |
Dydd Llun |
Pitsa, tatw, salsa, llysiau Myffin Persen a Siocled a llaeth |
Dydd Mawrth |
Peli cig, saws tomato, pasta, llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio cyw iar Cacen sioceld crenshlyd, a sudd |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau Hufen ia ac eirinen wlanog |
Dydd Gwener |
Darnau o gyw iar, sglodion, salad, moron wedi`I gratio Jeli ffrwythog a mwss |
NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:
Dyddiad / Date: |
Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn
|
Dyddiad / Date: | Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 |
6.7.23 | Meithrin Llawn amser / Y Gorlan | ||
13.6.23 | Y Ffynnon Bl 3 a 4 |
Cofion cynnes,
M. Lewis
Pennaeth