Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion, 

 

  • Ar ddydd Iau 15fed o Fehefin, bydd Dosbarth y Gorlan (Miss Carruthers) yn mynd i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran.

Bydd angen eich plentyn i ddod â phecyn bwyd a dillad addas am weithio yn yr awyr agored. Byddwn ni’n gadael am 9.30yb a byddwn yn dychwelyd i’r ysgol erbyn 2.30yp.

Bydd tâl o £12.50 am y trip ac mae croeso i rieni gwrdd â ni yn y Ganolfan.

Cysylltwch â Miss Carruthers am unrhyw ymholiadau.

 

  • 23.6.23 - Diwrnod hyfforddiant i staff felly bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion am y dydd.

 

  • Mabolgampau 1yp ar dir yr ysgol ar ddydd Mawrth 27.6.23.

 

  • Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Gorlan - bore yn unig (Miss Carruthers);  y Ffrydiau ( Mrs Howells) y Bont (Miss Harris) ar brynhawn dydd Mercher 5.7.23 o 1yp ymlaen. 

 

  • Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Ffynnon ac y Berllan (Miss Williams ac Miss Waters) ar brynhawn dydd Gwener 7.7.23 o 1yp ymlaen. 

Bydd y plant yn dangos eu gwaith i`r rhieni/gwarcheidwaid.

 

 

  • Gwahoddir i flwyddyn 5 i ymweld am ddiwrnod i Ysgol Gyfun Emlyn ar gyfer pontio ar ddydd Mawrth 6ed o Fehefin. Bydd eisiau i`r plentyn blwyddyn 5 gyrraedd erbyn 9:30yb a chael ei gasglu am 2yp. Bydd angen gwisgo dillad ymarfer corff; angen pecyn bwyd a diodydd ond darperir cinio am ddim i`r rhai sy`n arfer cael cinio am ddim.  Gallwch cysylltu a`r ysgol os oes angen ar 01239 710447.

 

 

  • Gwahoddir i flwyddyn 5 i ymweld am ddiwrnod hwyl yn Ysgol Aberteifi ar ddydd Mercher 12fed o Orffennaf ac fe fydd bws i fynd a`r disgyblion. 

 

  • Gwahoddir i fl 4, 5 a 6 i fynd i Glwb Criced Llechryd ar ddydd Mawrth, 6ed o Fehefin; bydd eisiau diod, pecyn bwyd a gwisgo eli haul.

 

 

 

  • Mae Trafnidiaeth Ceredigion yn printio tocynnau teithio ar gyfer trafnidiaeth i’r rhai sydd yn mynd i Ysgolion Uwchradd ym Mis Medi. Mae’n hollbwysig i wneud y cais a hefyd anfonwch lun o’ch plentyn.

 

Bydd tocynnau ar gyfer y ceisiadau rydym wedi derbyn sydd yn deilwng yn cael eu hanfon i chi yn yr Ysgol Cenarth cyn diwedd mis Mehefin i’w dosbarthu.

 

Y dyddiad diwethaf i anfon ceisiadau yw dydd Gwener 16eg o Fehefin .  Bydd unrhyw docyn teithio ar gyfer cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad yma yn cael ei anfon i’r Ysgol Uwchradd ym Mis Medi.  Ni ddylai disgyblion ddefnyddio’r bws Ysgol tan eu bod wedi derbyn eu tocyn teithio neu wedi derbyn e-bost yn cadarnhau eu lle ar y bws.

I wneud y cais defnyddiwch y linc ar www.ceredigion.gov.uk/resident/schools-education/school-transport/

 

Yn y rhifyn hwn, mae eich gwahodd i archwilio’r cysylltiad hynod ddiddorol rhwng y ddau fater byd-eang pwysig hyn drwy straeon cyfareddol ac enghreifftiau go iawn o ysgolion yng Nghymru a ledled y byd.

 

 

                     Bwydlen am wythnos 12.6.23

Dydd Llun

Pitsa, tatw, salsa, llysiau

Myffin siocled a sudd

Dydd Mawrth

Peli cig, saws tomato, pasta, llysiau

Sgon afal a chwstard

Dydd Mercher

Cinio cyw iâr

Cacen crenshlyd a sudd

Dydd Iau

Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Hufen ia ac eirinen wlanog

Dydd Gwener

Darnau o gyw iar wedi`i lapio, sglodion, salad, moron 

Jeli ffrwythog a mwss

 

NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:

 

Dyddiad / Date:

Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn

 

Dyddiad / Date:

Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 

 

                                                                                                  

15.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

22.6.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan

 

 

 

                                                                                                   

29.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

6.7.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan                                                                                             

 

 

 

 

13.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

 

 

 

Cofion cynnes,

 

M. Lewis 

Pennaeth