Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Gobeithio bod eich plant yn mwynhau nôl yn yr ysgol.
Trefniadau Covid i gadarnhau:
Mae profion Covid bellach i’w defnyddio os oes symptomau gan yr unigolyn, ac nid profi’n gyson. Felly ni ddylid cynnal prawf Covid os nad ydy’r unigolion yn dioddef symptomau.
Nid fydd yr Ysgol yn llythyru ‘Warn and Inform’ pan mae achosion Covid yn yr ysgol. Serch hyn, os ydyn ni’n gweld patrwm uchel mewn ambell ddosbarth, byddwn ystyried danfon nodyn gwybodaeth atoch.
Mae’r cyngor cenedlaethol ar hunan ynysu yn parhau i nodi y dylid hunan ynysu am 5 diwrnod. Nid oes angen cynnal 2 brawf negyddol cyn dychwelyd i’r ysgol ond mae angen i bawb fod yn rhydd o wres i ddychwelyd i’r ysgol.
Clwb Brecwast – dechrau am 8yb yn y Neuadd.
Dechrau ysgol – 8.45yb. ac mae`r mynediad trwy`r drws y ffrynt am fynediad i`r ysgol os gwelwch yn dda.
Ymarfer corff – i bawb ar bob dydd Mawrth.
Nofio – dosbarth Miss Waters / Y Gorlan (derbyn) yn dechrau ar ddydd Iau; bydd dosbarth Miss Waters yn mynd i nofio`n am 10 wythnos am gyfraniad o £10 os gwelwch yn dda.
Bikes / Scooters – gall plant ddod a`i sgwter / feic ar y diwrnod sydd wedi cael ei neilltuo:
Dydd Llun – dosbarth Mrs Howells Y Ffrydiau
Dydd Mawrth – dosbarth Miss Waters Y Gorlan
Dydd Mercher – dosbarth Miss Harris Y Bont
Dydd Iau – dosbarth Miss Williams Y Ffynnon
Dydd Gwener – Mrs Hughes` class Y Berllan
Bwydlen am ginio am yr wythnos 12.09.22 |
|
Dydd Llun |
Pitsa llysiau tatw Myffin Llaeth |
Dydd Mawrth |
Peli biff mewn saws tomato, llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio rhost cyw iâr Cacen siocled a Sudd |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod ffa pob llysiau Pwdin afal chwstard |
Dydd Gwener |
Barbeciw Cyw iâr Tatw llysiau Jeli a ffrwythau gyda hufen |
- Nodyn atgoffa - Gwersyll Yr Urdd Llangrannog – Blwyddyn 5 a 6 (Dosbarth Mrs Hughes)
Eleni rydym fel Ysgol yn trefnu taith i Wersyll yr Urdd Llangrannog ar gyfer disgyblion bl.5 a 6 ar Ionawr 25ain-27ain 2023 .
Bydd y disgyblion yn cael cyfle i brofi gweithgareddau megis merlota, sgïo, gwib gartio, dringo, cyfeiriannau, disgo, adeiladu tîm, gwylltgrefft, bingo, cwis, gemau potes, taith gerdded, nofio a llawer iawn mwy. Mae’r pris eleni yn £135.00.
Gofynnwn yn garedig i chwi anfon blaendal o £30 I’R YSGOL gyda’r bonyn amgaeedig ERBYN 3ydd o Hydref 2022
- Cynllun Gwên 2022 (Dosbarthiadau Mrs Howells / Miss Waters / Miss Harris)
Fel Ysgol rydym ni`n awyddus i gymryd rhan yn rhaglen Cynllun Gwên 2022.
Mae’r Cynllun Gwên yn gweithio gyda theuluoedd a phlant ifanc rhwng 0 a 7 oed. Mae’n annog hylendid y geg mewn sawl ffordd:
- rhoi cyngor i deuluoedd a darparu brwshys dannedd a phast dannedd fflworid
- annog ymweliad â’r deintydd cyn i’r plentyn fod yn 1 oed
- rhaglen iechyd deintyddol ar gyfer plant hyd at 7 oed mewn meithrinfa neu ysgol gynradd. Mae hyn yn cynnwys brwsio dannedd yn ddyddiol a rhoi farnais fflworid ddwywaith y flwyddyn.
A WNEWCH CHI DDYCHWELYD Y FFURFLENNI CANIATAD ERBYN 14/9/2022 OS GWELWCH YN DDA.
Cofion cynnes,
M. Lewis