Newyddion apwyntiad
Annwyl Rieni / Warcheidwaid, Staff a Disgyblion,
Mae'r Llywodraethwyr yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Mr Lee Burrows fel Pennaeth newydd Ysgol Gynradd Cenarth ac Ysgol Gynradd Llechryd.
Yn ystod proses ddethol drwyadl yn cynnwys staff, disgyblion, Llywodraethwyr, safodd Mr Burrows allan fel ymgeisydd arbennig i bawb a gymerodd ran, a dyma ddewis clir ac unfrydol holl aelodau'r panel dethol.
Ar hyn o bryd mae Mr Burrows yn Ddirprwy Pennaeth yn Ysgol Gynradd T. Llew Jones. Fe fydd cadarnhad o bryd mae`n ymuno â ni ac yn ystod tymor nesaf bydd Miss Lewis yn parhau i weithredu fel Pennaeth yr ysgolion.
Bydd eisiau sicrhau trosglwyddiad esmwyth ar gyfer mis Medi felly bydd Mr Burrows a Miss Lewis mewn cysylltiad agos dros y misoedd nesaf i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.
Gyda phenodiad Mr Burrows gallwn fod yn optimistaidd iawn am ddyfodol cryf, sefydlog a llwyddiannus i'r ysgol a gwn ei fod eisoes yn edrych ymlaen at gyfarfod â rhieni a disgyblion a rhannu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Yn gywir,
Cyng C. James
Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Cenarth