At rieni/gofalwyr disgyblion Ysgol Cenarth
Hoffwn ni fel llwyodraethwyr Ysgol Cenarth sôn am ein diolch diffuant i Miss Meinir Lewis am ei gwaith fel Pennaeth dros yr ysgol yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Roedd hi wedi: rhoi arweiniad pendant yn ystod cyfnod anodd Cofid, ein rhoi ar y llwybrau cywir ar y cwricwlwm newydd ac wedi sicrhau bod yr ysgol yn cael ei weld ar ei orau yn ystod ymweliad Estyn. Mae’r ysgol, yr athrawon ac yn bwysicaf oll y plant wedi cael budd mawr o’i harweiniad.
Ar ein rhan ni i gyd hoffwn dymuno pob hwyl yn y dyfodol a Nadolig Llawen iawn iddi.
Llywodraethwyr Ysgol Cenarth, Nadolig 2023