Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Mae Cylch Nawmor yn trefnu Parti Calan Gaeaf ar 20fed o Hydref am 5yh tan 7.30yh am £2.50; oes gennych ddiddordeb i anfon eich plentyn, plîs rhowch wybod gyda’r ysgol ar ddydd Llun er mwyn i ni gael syniad o’r niferoedd.
  • Beiciau a sgwterau – i ddod ar y diwrnodau canlynol:

Dydd Llun - Dosbarth y Gorlan,

Dydd Mawrth – Dosbarth y Ffrydiau;

Dydd Mercher – Dosbarth y Bont;

Dydd Iau – Dosbarth y Ffynnon

Dydd Gwener – Dosbarth y Berllan

  • Ymarfer corff – ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff. 
  • Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
  • CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH YR HYDREF: Thema ar gyfer pob dosbarth:

Dosbarth y Gorlan – Hydref; Dosbarth y Ffrydiau – coed yn yr hydref; Dosbarth y Bont – planhigion yn yr hydref; Dosbarth y Ffynnon – Creaduriaid yn yr hydref; Dosbarth y Berllan – unrhyw organeb fyw h.y. cen, ffyngau, pryfed, mamaliaid, yn yr hydref.

Dyddiad cau 20 Hydref 2023.

Gall pob ymgeisydd gyflwyno uchafswm o dri ffotograff. Rhaid derbyn pob cais erbyn y dyddiadau cau Hydref 20fed. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr. Dylid anfon lluniau ataf fel e-bost neu fel copi caled. Un enillydd i bob dosbarth a`r gwobr yw tocyn £20 .

  • Coch, gwyn a gwyrdd 16.10.23: gwahoddir i`r disgyblion i ddod yn y lliwiau yma ar ddydd Llun, 16eg o Hydref am gyfraniad o £1 os gwelwch yn dda i`r Urdd.

Bwydlen am ginio am yr wythnos 9.10.22

Dydd Llun

Sbageti cyw iâr, llysiau,

Cacen cwpan siocled

Dydd Mawrth

 Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Sbwng a chwstard

Dydd Mercher

Cinio rhost porc

Myffin afal a llaeth

Dydd Iau

Bolognes pasta, bara garlleg, llysiau

Cwci siocled a sudd

Dydd Gwener

 Cwn poeth, sglodion, salad, llysiau

Iogwrt a ffrwythau

Cofion cynnes,

M. Lewis