Annwyl Riant / Warcheidwad,

Heddiw mae gennym sawl absenoldeb oherwydd byg salwch. Yng ngoleuni hyn ac yn dilyn trafodaethau gyda’r Awdurdod Lleol, rydym wedi cymryd y camau canlynol i geisio rheoli lledaeniad y firws:

  • Mae'r holl athrawon wedi trafod beth yw hylendid da ac wedi atgoffa'r disgyblion o bwysigrwydd golchi dwylo'n rheolaidd;
  • Rydym wedi lleihau maint y cyswllt dan do rhwng ystafelloedd dosbarth;
  • Rydym wedi cyflwyno gorsafoedd glanweithdra mewn rhannau allweddol o'r ysgol.

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ystod yr wythnos. Yn y cyfamser, os oes unrhyw achosion pellach o absenoldeb, sicrhewch eich bod wedi hysbysu'r ysgol. Diolch i'r rhai sydd wedi gwneud yn barod. Hoffwn hefyd atgoffa pawb o’r rheol 48 awr. Rhaid i unrhyw ddisgybl, neu aelod o staff, sydd â symptomau dolur rhydd a/neu chwydu aros i ffwrdd o'r ysgol nes ei fod yn rhydd o'r symptomau am 48 awr.

Am gyngor neu gymorth meddygol, cysylltwch â'ch meddyg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r ysgol.

Diolch am eich cydweithrediad.

Yn gywir,

Mr L. Burrows.