Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Parti Calan Gaeaf ar 20fed o Hydref Cylch Nawmor wedi`i gohirio gydag ymddiheuriadau.
- Salwch: Ffoniwch / e-bostiwch yr ysgol i hysbysu am afiechyd, gyda symptomau gan gynnwys salwch a/neu dolur rhydd yn cael gwybod am y rheol gwahardd 48 awr (o'r symptom diwethaf a brofir). Gwahardd rhag nofio am bythefnos yn dilyn pennod olaf o ddolur rhydd / salwch.
- Beiciau a sgwterau – i ddod ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Llun - Dosbarth y Gorlan,
Dydd Mawrth – Dosbarth y Ffrydiau;
Dydd Mercher – Dosbarth y Bont;
Dydd Iau – Dosbarth y Ffynnon
Dydd Gwener – Dosbarth y Berllan
- Ymarfer corff – ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
- Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
- CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH YR HYDREF: Thema ar gyfer pob dosbarth:
Dyddiad cau 20 Hydref 2023.
- Coch, gwyn a gwyrdd 16.10.23: gwahoddir i`r disgyblion i ddod yn y lliwiau yma ar ddydd Llun, 16eg o Hydref am gyfraniad o £1 os gwelwch yn dda i`r Urdd.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 16.10.22 |
|
Dydd Llun |
Corma cyw iar, reis, bara Naan, llysiau, Fflapjac afal |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iâr, waffls, ffa pob, llysiau, Cacen siocled Haf |
Dydd Mercher |
Cinio selsig Cwci ceirch, ffrwyth a llaeth |
Dydd Iau |
Pastishio, bara garlleg, llysiau Pancos ffrwythog |
Dydd Gwener |
Bysedd Pysgod, sglodion, salad, pys Rolyn sbwng hufen ia |
Cofion cynnes,
M. Lewis