Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Gŵyl Chwaraeon Bl5 a 6 dydd Llun 13.11.23 wedi ei ganslo heddiw gydag ymddiheuriadau.

 

  • Rhieni Blwyddyn 6: Gan bod eich plentyn fod dechrau addysg uwchradd ym Medi 2024, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol erbyn 21 Rhagfyr 2023.Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Derbyniadau Ysgol.
    Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, yna gallwch ymweld â’u gwefannau: 
    AberaeronAberteifi Bro PedrBro TeifiHenry RichardPenglais a Penweddig.
    Os ydych chi'n penderfynu gwneud cais i ysgol mewn sir arall yna gwnewch gais i'r Sir honno.
    Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'ch cais erbyn 21 Rhagfyr 2023.  Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr ac efallai y bydd hyn yn cael effaith ar p’un ai ydych yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Noder y byddwch ond yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis os oes lleoedd ar gael yn yr ysgol honno.
    Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau derbyn a'r rheoliadau i'w gweld yma: 
    Gwybodaeth i Rieni. Os hoffech gael copi papur yna cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau (manylion isod).
    TRAFNIDIAETH YSGOL

 

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i ysgol o ganlyniad i rieni yn penderfynu dewis ysgol nad yw'r ysgol addas agosaf.  Fe'ch cynghorir i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth cyn penderfynu ar eich dewis o ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am Gludiant Ysgol, gan gynnwys y ffurflen gais, ar gael yma: Cludiant Ysgol. Noder mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth yw 21 Rhagfyr 2023.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.

 

Cheryl Evans. http://ysgolcenarth.cymru/8e15f420-2212-4bf3-84d1-e276b0b47640" alt="image001.jpg" />

Swyddog Derbyniadau Ysgol, Gwasanaeth Ysgolion, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

*Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

01545 570881

 

  • Plant Mewn Angen – 17/11/2023 – Cyfraniad i’r elusen gan wisgo dillad lliwgar/smotiog.

 

  • Sioe Nadolig Ysgol ‘Pandolig’ yn y Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn 13eg o Ragfyr, 6yh am £5 y tocyn, plant am ddim, raffl i`r ysgol. Tocynnau ar werth yn y drws.

 

 

  • Beiciau a sgwterau – diwrnodau canlynol:

Dydd Llun - Dosbarth y Gorlan,

Dydd Mawrth – Dosbarth y Ffrydiau;

Dydd Mercher – Dosbarth y Bont;

Dydd Iau – Dosbarth y Ffynnon

Dydd Gwener – Dosbarth y Berllan

  • Ymarfer corff – pob dydd Mawrth ar ôl hanner tymor. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
  • Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).

Bwydlen am ginio am yr wythnos 13.11.23

Dydd Llun

Pasitishio, bara garlleg, llysiau,

Pancos ffrwythog

Dydd Mawrth

Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Sbwng a chwstard

Dydd Mercher

Cinio selsig

Ffrwyth mewn jeli

Dydd Iau

Cyri cyw iâr, reis, bara Naan, llysiau

Myffin oren a sudd

Dydd Gwener

Pitsa tomato, sglodion, colslo, llysiau

Cwci siocled a llaeth

Cofion cynnes,

M. Lewis