Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Sioe Nadolig Ysgol ‘Pandolig’ yn y Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn 13eg o Ragfyr, 6yh am £5 y tocyn, plant am ddim, raffl i`r ysgol. Tocynnau ar werth yn y drws ar y noswaith.
  • Gofynnwn yn garedig i bob plentyn ddod ag un eitem Nadoligaidd i greu Hampyr o bob dosbarth am raffl y Sioe.

 

  • DIM Beiciau a sgwterau – am weddill y tymor plîs.
  • Ymarfer corff – pob dydd Mawrth ar ôl hanner tymor. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
  • Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).

Bwydlen am ginio am yr wythnos 20.11.23

Dydd Llun

Sbageti Bolognes, bara garlleg, llysiau

Cwci ceirch ffrwyth a llaeth

Dydd Mawrth

Cyw iâr wedi`i lapio, tatw, salads

Sgonen ffrwythog siocled a chwstard

Dydd Mercher

Cinio rhost porc

Iogwrt a ffrwythau

Dydd Iau

Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Sbwng siocled a saws gwyn

Dydd Gwener

Cwn poeth, sglodion, llysiau salad

Fflapjac afal

 

 

Rhieni Blwyddyn 6: Gan bod eich plentyn fod dechrau addysg uwchradd ym Medi 2024, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol erbyn 21 Rhagfyr 2023.Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Derbyniadau Ysgol.Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, yna gallwch ymweld â’u gwefannau: AberaeronAberteifi Bro PedrBro TeifiHenry RichardPenglais a Penweddig.Os ydych chi'n penderfynu gwneud cais i ysgol mewn sir arall yna gwnewch gais i'r Sir honno.Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'ch cais erbyn 21 Rhagfyr 2023.  Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr ac efallai y bydd hyn yn cael effaith ar p’un ai ydych yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Noder y byddwch ond yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis os oes lleoedd ar gael yn yr ysgol honno.Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau derbyn a'r rheoliadau i'w gweld yma: Gwybodaeth i Rieni. Os hoffech gael copi papur yna cysylltwch â’r Swyddog Derbyniadau (manylion isod).TRAFNIDIAETH YSGOL

 

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i ysgol o ganlyniad i rieni yn penderfynu dewis ysgol nad yw'r ysgol addas agosaf.  Fe'ch cynghorir i ystyried y goblygiadau trafnidiaeth cyn penderfynu ar eich dewis o ysgol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gludiant Ysgol, gan gynnwys y ffurflen gais, ar gael yma: Cludiant Ysgol. Noder mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth yw 21 Rhagfyr 2023.

 

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.

 

Cheryl Evans. http://ysgolcenarth.cymru/c8c9a535-325f-4e9a-bb8b-ebada07a9ca9" alt="image001.jpg" />

Swyddog Derbyniadau Ysgol, Gwasanaeth Ysgolion, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

*Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

01545 570881

 

Cofion cynnes,

M. Lewis