Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Gwyliau hanner tymor - 30.10.23 – 3.11.23.

 

  • Atodaf neges o Gylch Meithrin Nawmor. Cylch Meithrin Nawmor fydd yn gyfrifol am Glwb ar ôl Ysgol ar ôl hanner tymor. Bydd angen i chi roi gwybod i Miss Emily Owens o Gylch Meithrin Nawmor os oes gennych diddordeb. Gofynnwch yn yr ysgol os ydych chi eisiau copi caled.

 

  • Mae yna sawl ffurflen Ffliw i ddychwelyd os gwelwch yn dda mor gynted â phosib ac i nodi naill chi’n rhoi caniatâd neu ddim caniatâd. Mae`r nyrsys yn awyddus i gael y ffurflenni nol.

 

  • Rydym yn casglu bwyd sy'n addas ar gyfer y Banc Bwyd Castell Newydd Emlyn a byddem yn ddiolchgar am roddion h.y. bwyd tun, grawnfwydydd, reis, pasta, ac ati

 

  • Mae angen i`ch plant i gyrraedd yr ysgol yn brydlon erbyn 9yb.
  • Beiciau a sgwterau – dim yr wythnos yma os gwelwch yn dda.
  • Ymarfer corff – ar ddydd Gwener wythnos nesaf 27.10.23 ond wedyn nol i bob dydd Mawrth ar ôl hanner tymor. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
  • Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).

Bwydlen am ginio am yr wythnos 23.10.22

Dydd Llun

Pitsa, tatw, salsa, llysiau

Myffin siocled a llaeth

Dydd Mawrth

Peli cig mewn saws tomato, pasta, llysiau, bara garlleg

Sgonen afal a chwstard

Dydd Mercher

Cinio rhost cyw iâr, llysiau

Cacen crenshlyd siocled a sudd

Dydd Iau

Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau

Melba eirinen wlanog

Dydd Gwener

Cyw iâr wedi`i lapio, sglodion, salad

Jeli ffrwythog a mŵs

Cofion cynnes,

M. Lewis