Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Ymarfer corff – ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
Nofio: Bydd gwersi nofio dydd Mawrth i Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH YR HYDREF: Allwch chi ddal harddwch y tymor? Gwneud i'r lliwiau hydrefol ddisgleirio llachar? Neu yn cael cipolwg ar ein ffrindiau a'n hamgylchedd anifeiliaid?
Mae gennym gystadleuaeth ffotograffiaeth ar thema Tymor yr Hydref.
Thema ar gyfer pob dosbarth:
Dosbarth y Gorlan – Hydref; Dosbarth y Ffrydiau – coed yn yr hydref; Dosbarth y Bont – planhigion yn yr hydref
Dosbarth y Ffynnon – Creaduriaid yn yr hydref; Dosbarth y Berllan – unrhyw organeb fyw h.y. cen, ffyngau, pryfed, mamaliaid, yn yr hydref.
Dyddiad cau 20 Hydref 2023.
Allwch chi ddal harddwch y tymor? Gwneud y lliwiau hydrefol yn disgleirio llachar? Neu yn cael cipolwg ar ein ffrindiau a'n hamgylchedd anifeiliaid? Gall pob ymgeisydd gyflwyno uchafswm o dri ffotograff.
Rhaid derbyn pob cais erbyn y dyddiadau cau a'r amseroedd. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr. Dylid anfon lluniau ataf fel e-bost neu fel copi caled. Un enillydd i bob dosbarth a`r gwobr yw tocyn £20 .
- Ffair Iaith i fl 5 a 6 ar 5ed o Hydref yn Ysgol Uwchradd Aberteifi:
Cynhelir y digwyddiad yma gan y Siarter Iaith. Syniad a bwriad cynnal Ffair Iaith yw cynnig cyfle i hyrwyddo, normaleiddio y Gymraeg a chodi hyder ein disgyblion yn y Gymraeg ac i ddefnyddio’r iaith. Manteisio ar y cyfle i agor eu llygaid i gyfleodd a gwaith amrywiol y mae’r Gymraeg ym medru cynnig yng Ngheredigion a thu hwnt.
Mi fydd Ameer Davies – Rana (Hansh) ac o gwmni ‘1 Miliwn’ yn ymweld â ni yn ystod y diwrnodau. gyda sesiynau Flogio, podlediadau, headsets rhith realiti ac mi fydd yn wyneb i’r digwyddiad gan fod yn gyflwynydd teledu adnabyddus. Bydd Mr Fformula yno, DJ Gwion ap Iago, amrywiol enwogion Cymraeg eraill yn ymweld a wahanol ffeiriau megis Mel Owen y gomediwraig, Sion Tomos Owen cyflwynydd a'r artist. Mi fydd Cered / Theatr Felinfach / Hamdden Ceredigion, yr Urdd, CFFI, Coleg Cymraeg a llawer mwy yn bresennol. Fe fydd angen talu £3 am y bws.
- Coch, gwyn a gwyrdd 16.10.23: gwahoddir i`r disgyblion i ddod yn y lliwiau yma ar ddydd Llun, 16eg o Hydref am gyfraniad o £1 os gwelwch yn dda i`r Urdd.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 22.09.22 |
|
Dydd Llun |
Corma cyw iâr, reis, bara Naan, llysiau Fflpjac afal a sudd |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iâr, tatw, ffa pob, llysiau Cacen haf |
Dydd Mercher |
Cinio selsig Cwci ceirch, ffrwyth a llaeth |
Dydd Iau |
Pastishio, bara garlleg, llysiau Pancos ffrwythog |
Dydd Gwener |
Bysedd pysgod, sglodion, salad, pys Rolyn hufen ia sbwng |
Cofion cynnes,
M. Lewis