Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,

 

  • Siwmperi Nadolig 7.12.23.
  • Sioe Nadolig Ysgol ‘Pandolig’ yn y Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn 13eg o Ragfyr, 6yh am £5 y tocyn, plant am ddim, raffl i`r ysgol. Tocynnau ar werth yn y drws ar y noswaith.
  • Neges i rieni:

 

Fel y gwyddoch, mae gan bob disgybl hawl i ginio am ddim bob dydd erbyn hyn. Fodd bynnag, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol ond nad ydych yn ymwybodol ohono. Mae’r grant hwn yn £125 y plentyn, neu £200 ar gyfer disgybl Blwyddyn 7. Os ydych eisoes yn gymwys byddech wedi cael eich talu dros yr haf neu yn agos at ddechrau’r tymor hwn, ond os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys a heb dderbyn taliad eleni, dilynwch y dolenni isod am ragor o wybodaeth a chwblhewch ffurflen cais os dymunwch.

 

Gwybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgolion:

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/grant-hanfodion-ysgol/

 

Ar gyfer meini prawf grant ac i gwblhau cais:

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/prydau-ysgol-am-ddim/

  • Gofynnwn yn garedig am i bob plentyn ddod ag un eitem Nadoligaidd i greu Hampyr o bob dosbarth am raffl y Sioe.

 

  • DIM Beiciau a sgwterau – am weddill y tymor plîs.
  • Ymarfer corff – pob dydd Mawrth ar ôl hanner tymor. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
  • Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).

Bwydlen am ginio am yr wythnos 27.11.23

Dydd Llun

Peli cig, saws tomato, pasta, llysiau

Sgonen afal a chwstard

Dydd Mawrth

Grilen cyw iâr, hash brown, ffa pob, llysiau

Rolyn sbwng hufen ia

Dydd Mercher

Cinio rhost cyw iar

Myffin siocled a sudd

Dydd Iau

Pasta pob tomato a chaws, llysiau, bara

Sbwng oren sudd a saws poeth siocled

Dydd Gwener

Bysedd pysgod, sglodion, pys

Cacen crenshlyd siocled a llaeth

 

 

 

Cofion cynnes,

M. Lewis

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gludiant Ysgol, gan gynnwys y ffurflen gais, ar gael yma: Cludiant Ysgol. Noder mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth yw 21 Rhagfyr 2023.

 

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Derbyniadau Ysgol os bydd angen cymorth pellach arnoch. Gweler y manylion cyswllt isod.

 

Cheryl Evans. http://ysgolcenarth.cymru/ee18f6a0-0a7c-447c-8b56-8590cb74e28d" alt="image001.jpg" />

Swyddog Derbyniadau Ysgol, Gwasanaeth Ysgolion, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

*Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

01545 570881

 

Cofion cynnes,

M. Lewis