Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Diolch am eich cefnogaeth cyn ac yn ystod arolygiad Estyn a bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 28.12.23. Hoffwn longyfarch y staff am eu gwaith caled a`r plant am eu ymrwymiad i ddysgu ac eu cefnogaeth i`r gymuned yr ysgol.
- Gwyliau hanner tymor - 30.10.23 – 3.11.23.
- Diolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd eu ffotograffiau gwych ar gyfer y gystadleuaeth Ffotograffiaeth. Roedd y dasg i ddewis yr enillwyr yn hynod o anodd gan ein bod wedi derbyn cymaint o geisiadau anhygoel. Fodd bynnag, dewisom dau enillydd o bob dosbarth.
- http://ysgolcenarth.cymru/2f98b8f3-7e4d-4458-b92b-5ee504296dd7" alt="image001.png" style="width: 1.0763inpx; height: 1.0763inpx;" />Cystadleuaeth Nadolig-
Mae Cadeirydd y Sir wedi gwneud cais i gynnal cystadleuaeth i ddisgyblion ysgol i ddylunio cerdyn Nadolig.
Cystadleuaeth yn agored i Ysgolion Cynradd (pob oedran).
Gwobrau: 1af - £100, 2il - £75, 3ydd - £50
Y dyluniadau i’w cyflwyno erbyn dydd Mercher yr 8fed o Dachwedd (mewn da bryd i’w hargraffu)
Clawr yn unig – bydd y neges tu fewn yn cael ei chreu gan yr Adran Gorfforaethol
Unrhyw destun ar y clawr i fod yn ddwyieithog
Themâu - Llawenydd/Diolch/Cyfleu ystyr y Nadolig
Danfonwch eich ceisiadau at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. erbyn yr 8fed o Dachwedd 2023.
- Mae yna sawl ffurflen Ffliw i ddychwelyd os gwelwch yn dda mor gynted â phosib ac i nodi naill chi’n rhoi caniatâd neu ddim caniatâd. Mae`r nyrsys yn awyddus i gael y ffurflenni nol. Fe fydd yr imiwneiddiadau ffliw yn gael ei weinyddu ar fore 6ed o Dachwedd.
- Rydym yn casglu bwyd sy'n addas ar gyfer y Banc Bwyd a byddem yn ddiolchgar am roddion h.y. bwyd tun, grawnfwydydd, reis, pasta, ac ati
- Apel y Pabi Coch — Fe fydd papi Coch ac eitemau amrywiol ar werth yr wythnos ar ôl y gwyliau.
- Beiciau a sgwterau – diwrnodau canlynol:
Dydd Llun - Dosbarth y Gorlan,
Dydd Mawrth – Dosbarth y Ffrydiau;
Dydd Mercher – Dosbarth y Bont;
Dydd Iau – Dosbarth y Ffynnon
Dydd Gwener – Dosbarth y Berllan
- Ymarfer corff – pob dydd Mawrth ar ôl hanner tymor. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
- Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
Bwydlen am ginio am yr wythnos 06.11.23 |
|
Dydd Llun |
Peli cig, saws tomato, pasta, bara garlleg, llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mawrth |
Grilen cyw iâr, hash brown, ffa pob, llysiau Rolyn sbwng hufen ia |
Dydd Mercher |
Cinio rhost cyw iâr, Myffin siocled a llaeth |
Dydd Iau |
Cawl a bara Sbwng oren a chwstard |
Dydd Gwener |
Bysedd pysgod, sglodion, pys Cacen crenshlyd siocled a llaeth |
Cofion cynnes,
M. Lewis