Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Neges i Ddosbarth y Gorlan (Miss Carruthers) – mae gan un disgybl alergedd i fefus felly rydym yn gofyn i chi beidio anfon mefus gyda`ch plentyn os gwelwch yn dda.
- Imiwneiddiadau Ffliw – fe fydd llythyron yn mynd allan atoch, dychwelwch ffurflen caniatâd i'r ysgol erbyn 06.10.23 os gwelwch yn dda. Fe fydd yr imiwneiddiadau ffliw yn gael ei weinyddu ar fore 6ed o Dachwedd.
- Gweminar Diogelwch Chwarae Gemau a Ar-lein Gweminar Diogelwch Chwarae Gemau a Ar-lein
http://ysgolcenarth.cymru/260525d9-1d7d-453a-b790-0075b7023a70" alt="A green and purple rectangular sign Description automatically generated" style="width: 1.8402inpx; height: 2.5902inpx;" />
- Beiciau a sgwterau – i ddod ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Llun - Dosbarth y Gorlan,
Dydd Mawrth – Dosbarth y Ffrydiau;
Dydd Mercher – Dosbarth y Bont;
Dydd Iau – Dosbarth y Ffynnon
Dydd Gwener – Dosbarth y Berllan
- Ymarfer corff – ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
- Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
- CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH YR HYDREF: Thema ar gyfer pob dosbarth:
Dosbarth y Gorlan – Hydref; Dosbarth y Ffrydiau – coed yn yr hydref; Dosbarth y Bont – planhigion yn yr hydref; Dosbarth y Ffynnon – Creaduriaid yn yr hydref; Dosbarth y Berllan – unrhyw organeb fyw h.y. cen, ffyngau, pryfed, mamaliaid, yn yr hydref.
Dyddiad cau 20 Hydref 2023.
Gall pob ymgeisydd gyflwyno uchafswm o dri ffotograff. Rhaid derbyn pob cais erbyn y dyddiadau cau Hydref 20fed. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr. Dylid anfon lluniau ataf fel e-bost neu fel copi caled. Un enillydd i bob dosbarth a`r gwobr yw tocyn £20 .
- Ffair Iaith i fl 5 a 6 ar 5ed o Hydref yn Ysgol Uwchradd Aberteifi:
Fe fydd angen talu £3 am y bws a dod a phecyn bwyd.
- Coch, gwyn a gwyrdd 16.10.23: gwahoddir i`r disgyblion i ddod yn y lliwiau yma ar ddydd Llun, 16eg o Hydref am gyfraniad o £1 os gwelwch yn dda i`r Urdd.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 2.10.22 |
|
Dydd Llun |
Pitsa, tatw, salsa, llysiau, Myffin siocled a phersen a llaeth |
Dydd Mawrth |
Peli cig, saws tomato, pasta, bara garlleg, llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio rhost cyw iâr Cacen siocled crenshlyd a sudd ffrwythau |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau Hufen ia ac eirinen wlanog melba |
Dydd Gwener |
Cyw iâr wedi`i lapio, sglodion, moron, salad Jeli ffrwythog a mŵs |
Cofion cynnes,
M. Lewis