Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
- Sioe Nadolig Ysgol ‘Pandolig’ yn y Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn 13eg o Ragfyr, 6yh am £5 y tocyn, plant am ddim, raffl i`r ysgol. Tocynnau ar werth yn y drws ar y noswaith.
- Bydd angen i`r plant ddod a`u gwisg am y sioe ar ddydd Llun os gwelwch yn dda.
- Ymarfer corff – dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
- Nofio: Bydd gwersi nofio ar ddydd Llun Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phob dydd Iau Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
Bwydlen am ginio am yr wythnos 11.12.23 |
|
Dydd Llun |
Sbageti Bolognes, bara garlleg, llysiau, Cwci ceirch, banana a llaeth |
Dydd Mawrth |
Cyw iâr wedi`i lapio, tatw, salad, Sbwng siocled ffrwythog, a chwstard |
Dydd Mercher |
Cwn poeth, sglodion, llysiau, salad Fflapjac afal |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod, tatw, ffa pob, llysiau Sbwng siocled a saws gwyn |
Dydd Gwener |
Cinio Nadolig |
Cofion cynnes,
M. Lewis