Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion,
Ymarfer corff – ar bob dydd Mawrth. Disgyblion i ddod yn eu gwisg ymarfer corff.
Nofio: Bydd gwersi nofio wythnos nesaf ar bob dydd Mawrth am 10 wythnos am £12 os gwelwch yn dda i Ddosbarth Y Bont (Miss Harris) a Dosbarth y Ffrydiau (Mrs Howells/Miss Carruthers); a phobdydd Iau am 10 wythnos am £12 Ddosbarth y Ffynnon (Miss Williams) a Dosbarth y Berllan (Miss Waters).
Ffurflen Casglu Data 2023: mae`n holl bwysig i`r ysgol i gael diweddariad o wybodaeth a`ch caniatâd am ddefnyddio`r wê yn yr ysgol ac am deithiau.
Dosbarth y Ffrydiau: Mae Dosbarth y Ffrydiau`n mynd am daith i`r Amgueddfa Cwryglau Cenarth felly mae angen dychwelyd y ffurflen ac mae eisiau cyfraniad o £2.
CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH YR HYDREF: Allwch chi ddal harddwch y tymor, lliwiau hydrefol? Neu yn cael cipolwg ar ein ffrindiau a'n hamgylchedd anifeiliaid?
Mae gennym gystadleuaeth ffotograffiaeth ar thema Tymor yr Hydref.
Thema ar gyfer pob dosbarth:
Dosbarth y Gorlan - Hydref
Dosbarth y Ffrydiau – coed yn yr hydref
Dosbarth y Bont – planhigion yn yr hydref
Dosbarth y Ffynnon – Creaduriaid yn yr hydref
Dosbarth y Berllan – unrhyw organeb fyw h.y. cen, ffyngau, pryfed, mamaliaid, yn yr hydref
Dyddiad cau 20 Hydref 2023.
Allwch chi ddal harddwch y tymor? Gwneud y lliwiau hydrefol yn disgleirio llachar? Neu yn cael cipolwg ar ein ffrindiau a'n hamgylchedd anifeiliaid?
Gall pob ymgeisydd gyflwyno uchafswm o dri ffotograff.
Rhaid derbyn pob cais erbyn y dyddiadau cau a'r amseroedd. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr. Dylid anfon lluniau ataf fel e-bost neu fel copi caled. Un enillydd i bob dosbarth a`r gwobr yw tocyn £20 .
BETH AM DDOD YN AELOD O URDD GOBAITH CYMRU? Sut i Ymaelodi?
Dilynwch y linc Ymuno | Urdd Gobaith Cymru Gyda system ymaelodi, Y PORTH. Os wyt wedi ymaelodi llynedd mae’r broses adnewyddu yn syml! Cer i mewn i’r Porth, gwiria dy fanylion ac yna cer ymlaen a chlicia ‘Adnewyddu Aelodaeth’ ger enw’r aelod dan sylw ac yna ymlaen i dalu.
Os ydych yn ymaelodi am y tro cyntaf, bydd angen i ti greu proffil o fewn Y Porth er mwyn cychwyn y broses. Wedi hynny ychwanegwch manylion yr aelod ac yna ymlaen i dalu.
Ar ôl ychwanegu a thalu bydd eich plentyn yn aelodau o’r Urdd a gallwch ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion a dros y misoedd nesaf bydd holl weithgareddau a chystadlaethau’r Urdd yn symud i’r Porth, hefyd.
Ar ol ymaelodi bydd bathodyn aelodaeth yn cael ei anfon at yr aelod. Ni fydd cardiau aelodaeth eleni gan fod y rhif Aelodaeth ar ebost ac o fewn y Porth.
- URDD: Taith i Wersyll yr Urdd Llangrannog
Eleni rydym fel Ysgol eto yn trefnu taith i Wersyll yr Urdd Llangrannog ar gyfer disgyblion bl.3 a 4 ar 10 – 11 Ionawr 2024.
Bydd y disgyblion yn cael cyfle i brofi gweithgareddau megis merlota, sgïo, gwib gartio, dringo, cyfeiriannau, disgo, adeiladu tîm, gwylltgrefft, bingo, cwis, gemau potes, taith gerdded, nofio a llawer iawn mwy. Mae’r pris eleni yn £77.00
Taith i Wersyll yr Urdd Glanllyn
Eleni rydym fel Ysgol eto yn trefnu taith i Wersyll yr Urdd Glanllyn ar gyfer disgyblion bl.5 a 6 ar 24 – 26 Ebrill 2024.
Bydd y disgyblion yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau ystod y cwrs yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, a all gynnwys y cwrs rhaffau, canŵio a hwylio ar Lyn Tegid. Mae’r pris eleni yn £175.00
Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc Ein Gwersylloedd | Urdd Gobaith Cymru
- Diwrnod adnabod Chwaraewyr Rygbi Blwyddyn 5 a 6: Bydd eisiau i rieni / warcheidwaid wneud trefniadau am fynd a`ch plentyn i`r sesiwn isod -
Aron Davies Swyddog Datblygu Rygbi URC / WRU Rugby Development Officer Ysgol Bro Teifi
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Bwydlen am ginio am yr wythnos 11.09.22 |
|
Dydd Llun |
Pitsa, tatw, salsa, llysiau Myffin persen a siocled a llaeth |
Dydd Mawrth |
Peli cig, saws tomato, pasta, bara garlleg,llysiau Sgonen afal a chwstard |
Dydd Mercher |
Cinio Cyw iar Cacen crenshlyd siocled a sudd |
Dydd Iau |
Bysedd pysgod, tatw, llysiau, Eirinen wlanod ac hufen ia |
Dydd Gwener |
Darnau cyw iâr, sglodion, salad Jeli ffrwythog gyda mŵs |
Cofion cynnes,
M. Lewis